Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2017 Medi
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Biliau Pwyllgor
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.
2. Mae'r adroddiad yn argymell newidiadau i Reol Sefydlog 26 sy'n ymwneud â Biliau Pwyllgor. Mae'r newidiadau a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.
Cefndir
3. Mewn llythyr diweddar at y Pwyllgor Busnes cynigiodd y Pwyllgor Cyllid y dylai Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod yn destun gwaith craffu Cyfnod 1 gan un o bwyllgorau eraill y Cynulliad, yn yr modd â Biliau nad ydynt yn Filiau pwyllgor. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn bwriadu cyflwyno'r Bil hwn yn nhymor yr hydref 2017. Cytunodd y Pwyllgor Busnes o ran egwyddor ar 11 Gorffennaf y dylid cyfeirio Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at bwyllgor pwnc yng Nghyfnod 1 ac yn ôl at yr un pwyllgor yng Nghyfnod 2 oherwydd natur y Bil ac amgylchiadau'r broses o'i ddatblygu.
4.
Fodd bynnag, ni fyddai'n bosibl cyferio'r Bil yn y
fath fodd o dan y Rheolau Sefydlog presennol. Mae Rheol Sefydlog
26.82 yn nodi nad yw Rheolau Sefydlog 26.9 i 26.12 yn gymwys i
Filiau pwyllgor. Mae hynny'n golygu na ellir cyfeirio Bil pwyllgor
at bwyllgor cyfrifol ei ystyried ac adrodd ar ei egwyddorion
cyffredinol. Felly, nid yw trafodion Cyfnod 1 ond yn cynnwys dadl
yn y Cyfarfod Llawn, a gynhelir heb fod pwyllgor yn adrodd ar
egwyddorion cyffredinol Bil.
Newidiadau arfaethedig
5. Nid yw'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud yn benodol â Biliau pwyllgor erioed wedi cael eu defnyddio ar eu ffurf bresennol.
6. Y rheswm nad yw pwyllgorau'n ystyried Biliau o'r fath yng Nghyfnod 1 yw am fod pwyllgor sy'n cyflwyno Bil sy'n ymwneud â'i gylch gwaith yn debygol o:
- fod wedi cwblhau o leiaf un ymchwiliad i bolisi cyhoeddus a/neu ymgynghoriad ar yr angen am ddeddfwriaeth; ac yn debygol o
- fod mewn gwell sefyllfa nag unrhyw bwyllgor arall (y câi Bil pwyllgor ei gyfeirio ato fel arall) i benderfynu ynghylch yr egwyddorion cyffredinol, felly mae'n bosibl na fyddai ymchwiliad Cyfnod 1 yn ychwanegu llawer o werth.
7. Yn ei lythyr diweddar at y Pwyllgor Busnes, awgrymodd y Pwyllgor Cyllid y dylid cyfeirio Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at bwyllgor pwnc yng Nghyfnod 1 ac yn ôl at yr un pwyllgor yng Nghyfnod 2 er lles arfer gorau a thryloywder.
8. Un ffordd o wneud hyn fyddai drwy atal Rheol Sefydlog 26.82 (ar yr amod bod mwyafrif o ddwy ran o dair o'r Aelodau'n cytuno â hynny yn y Cyfarfod Llawn). Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor Busnes o'r farn y byddai'n well newid y Rheol Sefydlog fel bod ganddo'r disgresiwn ar gyfer pob Bil pwyllgor i benderfynu a fyddai'n briodol cyfeirio Bil at bwyllgor yng Nghyfnod 1 ai peidio.
9. Byddai'r Pwyllgor Busnes yn cael y disgresiwn hwnnw drwy gael gwared ar Reol Sefydlog 26.82, sy'n nodi'n benodol nad yw gwaith craffu Cyfnod 1 yn gymwys i Filiau pwyllgor. Yna, byddai gan y Pwyllgor Busnes yr opsiwn o gyfeirio (neu beidio â chyfeirio) Bil pwyllgor at bwyllgor cyfrifol i graffu arno yng Nghyfnod 1. Yn sgil dileu Rheol Sefydlog 26.82, byddai Rheolau Sefydlog 26.80 a 26.84 yn cael eu dileu hefyd, a byddai'r cyfeiriadu at Reol Sefydlog 26.83 yn cael eu dileu o Reolau Sefydlog 26.13 ac 16.14.
10. Cytunodd y Rheolwyr Busnes ym mis Gorffennaf 2017 y dylid cyflwyno'r newidiadau arfaethedig hyn i'r Cynulliad cyn cyflwyno Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a disgwylir i hynny ddigwydd ym mis Hydref.
Camau gweithredu
11. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 19 Medi 2017, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B.
Atodiad A
RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Cynulliad
|
||
Cyfnod 1 – Ystyried yr Egwyddorion Cyffredinol |
||
26.13 |
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar
egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12,
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.
Newid dilynol yn sgil dileu Rheol Sefydlog 26.83. |
26.14 |
Os na fydd y Cynulliad yn cytuno ar
egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12,
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.
Newid dilynol yn sgil dileu Rheol Sefydlog 26.83. |
Biliau Pwyllgor |
|
|
|
|
Dileu'r Rheol Sefydlog
Newid dilynol yn sgil dileu Rheol Sefydlog 26.82, a Rheolau Sefydlog eraill a oedd yn ddibynnol arni. Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon mwyach |
28.81 |
Caiff unrhyw bwyllgor gyflwyno Bil pwyllgor sy’n ymwneud â chylch gorchwyl y pwyllgor.
|
Cadw'r Rheol Sefydlog hon
|
|
|
Dileu'r Rheol Sefydlog
Bydd dileu'r Rheol Sefydlog hon yn galluogi'r Pwyllgor Busnes i benderfynu fesul achos a ddylid cyfeirio Bil pwyllgor at Bwyllgor arall i graffu arno yng Nghyfnod 1. Felly, bydd yr un gweithdrefnau â Biliau eraill yn gymwys i Filiau pwyllgor. |
|
|
Dileu'r Rheol Sefydlog
Ar ôl dileu Rheol Sefydlog 26.82, nid oes angen y Rheol Sefydlog mwyach gan y bydd Biliau pwyllgor yn ddarostyngedig i'r un gweithdrefnau â Biliau eraill yng Nghyfnod 1. |
Atodiad B
RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Cynulliad
Cyfnod 1 – Ystyried yr Egwyddorion Cyffredinol
26.13 Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12, neu 26.102, mae’r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2.
26.14 Os na fydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12, neu 26.102, mae’r Bil yn methu.
Biliau Pwyllgor
26.80[Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar XX XXXX XXXX]
28.81 Caiff unrhyw bwyllgor gyflwyno Bil pwyllgor sy’n ymwneud â chylch gorchwyl y pwyllgor.
26.82 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar XX XXXX XXXX]
26.83 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar XX XXXX XXXX]